English

Llety Gwyliau Fron Deg

Y Ffermdy

Y Ffermdy

O'r tu allan ffermdy traddodiadol Cymreig yw Fron Deg. Fodd bynnag fe'i adnewyddwyd yn gyfangwbl yn 2003 er mwyn darparu amrediad eang a chwaethus o gyfleusterau.

Ar y llawr gwaelod, mae cegin fodern, ystafell fwyta gyda bwrdd i ddeg person, dwy lolfa fawr (un ar ffurf y stelc traddodiadol o gwmpas tân llosgi coed). Mae soffa yno i wneud gwely dwbl arall os oes angen. Mae drysau Ffrengig yn agor o'r gegin ar i batio lle gellwch eistedd i fwynhau'r golygfeydd a'r ardd.

Mae pedair llofft i gyd - tri ohonynt yn rhai dwbl gyda chyfleusterau en-suite. Mae pedwerydd llofft gyda dau wely sengl. Mae hefyd baddondy gyda thoiled a baddon

Swyddfa: Plas Bowman, 5 High Street, CAERNARFON LL55 1RN Ffôn. 01248 440696 E-bost. post@fron-deg.co.uk