English

Llety Gwyliau Fron Deg

Y Bythynnod

Y Bythynnod

Mae'r pedwar bwthyn (Ty Nesaf, Ty Pigyn, Ty Cornel a Thy Gwenno), ynghyd â'r ffermdy, yn ffurfio tair ochr i gwrt graeanog di-geir.

Fe addaswyd y Bythynnod yn wreiddiol yn yr wythdegau o feudai'r fferm ac maent hwythau hefyd wedi eu moderneiddio yn ddiweddar. Mae'r cyfan yn creu naws gyfoes a chyfleus o fewn cragen traddodiadol.

Y Bythynnod

Mae pob bwthyn wedi ei ddodrefnu yn debyg gyda dwy ystafell wely (un dwbl) ac eithrio TyPigyn sydd �g un ystafell wely ddwbl yn unig), cegin dwt, a lolfa. Maent i gyd â drws Ffrengig er mwyn i chi gael mynd allan i'ch teras eich hun a'r gerddi. Mae maes parcio helaeth gerllaw.

Mae cyfle i westeion ddefnyddio'r man barbeciw, y golchdy ac i storio beiciau dan glo yn y sied. Mae croeso i berchnogion anifeiliaid ddod â hyd at ddau anifail anwes gyda hwy i aros yn y bythynnod am dâl rhesymol ychwanegol.

Swyddfa: Plas Bowman, 5 High Street, CAERNARFON LL55 1RN Ffôn. 01248 440696 E-bost. post@fron-deg.co.uk